2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?
3 Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:
4 Rhag dywedyd o'm gelyn, Gorchfygais ef; ac i'm gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.
5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i'r Arglwydd, am iddo synio arnaf.