4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y'th ofner.
5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore.
7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda'r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef.
8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.