11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.
12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a'm tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi.
15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a'i saint dan ganu a ganant.
17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.