3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
4 Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na hun i'm hamrantau,
5 Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob.
6 Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed.
7 Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.
8 Cyfod, Arglwydd, i'th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.
9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.