12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.
16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.
17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!
18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.