17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!
18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
19 Yn ddiau, O Dduw, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:
20 Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer.
21 Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?
22 A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
23 Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;