3 Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a'i gwyddost oll.
5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
7 I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
8 Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: