8 Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
10 Yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw.
11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a'm cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.
12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.