1 Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:
2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo'r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela.