6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt.
7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.
8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.
9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.
10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.