1 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
2 Ac na ddos i farn â'th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
4 Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.