1 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
2 Ac na ddos i farn â'th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
4 Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
5 Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
6 Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.
7 O Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.