3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
4 Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
5 Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
6 Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.
7 O Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
8 Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.
9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Arglwydd: gyda thi yr ymguddiais.