1 Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a'm bysedd i ryfela.
2 Fy nhrugaredd, a'm hamddiffynfa; fy nhŵr, a'm gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
3 Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
4 Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.