3 Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
4 Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.
6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.
7 Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
9 Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a'r dectant y canaf i ti.