5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.
6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.
7 Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
9 Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a'r dectant y canaf i ti.
10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.
11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster: