9 Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a'r dectant y canaf i ti.
10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.
11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:
12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a'n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:
13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a'n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:
14 A'n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.
15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.