1 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd.
2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.
3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i'w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.