1 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
4 Molwch ef, nef y nefoedd; a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.