3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
4 Molwch ef, nef y nefoedd; a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
7 Molwch yr Arglwydd o'r ddaear, y dreigiau, a'r holl ddyfnderau:
8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
9 Y mynyddoedd a'r bryniau oll; y coed ffrwythlon a'r holl gedrwydd: