8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
9 Y mynyddoedd a'r bryniau oll; y coed ffrwythlon a'r holl gedrwydd:
10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
11 Brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.