2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:
3 Ond i'r saint sydd ar y ddaear, a'r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.
5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a'm ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.
6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.
7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghorodd: fy arennau hefyd a'm dysgant y nos.
8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni'm hysgogir.