8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni'm hysgogir.
9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith.
10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.
11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.