1 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid.
2 Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddiffynfa, a'm gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a'm huchel dŵr.
3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y'm cedwir rhag fy ngelynion.
4 Gofidion angau a'm cylchynasant, ac afonydd y fall a'm dychrynasant i.
5 Gofidiau uffern a'm cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.
6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth i'w glustiau ef.
7 Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.