23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
24 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.
25 A'r trugarog y gwnei drugaredd; â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
26 A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.
27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.
28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.
29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur.