38 Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.
40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr Arglwydd, ond nid atebodd efe hwynt.
42 Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.
44 Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.