45 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o'u dirgel fannau.
46 Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth.
47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.
48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a'm dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.
49 Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.
50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Dafydd, ac i'w had ef byth.