8 Dyrchafodd mwg o'i ffroenau, a thân a ysodd o'i enau: glo a enynasant ganddo.
9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
10 Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a'i babell o'i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.
13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a'u gorchfygodd hwynt.