1 Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?
2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a'r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,
3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt.
5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt.
6 Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd.