7 I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.
8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.
9 Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na'm bywyd gyda dynion gwaedlyd:
10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a'u deheulaw yn llawn gwobrau.
11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.
12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y'th fendithiaf, O Arglwydd.