1 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf?
2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, i'm herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant.
3 Pe gwersyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i'm herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.
4 Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml.
5 Canys yn y dydd blin y'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y'm cuddia; ar graig y'm cyfyd i.
6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd.
7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.