6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau.
7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.
9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.