5 Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus.
6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
7 Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân.
8 Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.
9 Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.
10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd.
11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i'w bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.