1 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o'm plegid.
2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a'm hiacheaist.
3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o'r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i'r pwll.
4 Cenwch i'r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.