12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.
13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.
14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt.
15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.
16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
17 Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i'r bedd.
18 Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.