3 Canys fy nghraig a'm castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.
4 Tyn fi allan o'r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
5 I'th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.
6 Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd.
7 Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;
8 Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
9 Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a'm bol.