8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â'm llygad arnat y'th gynghoraf.
9 Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat.
10 Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchyna ef.
11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.