19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddi wrthynt oll.
20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.
21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.
22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.