5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a'u hwynebau ni chywilyddiwyd.
6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau.
7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'u gwared hwynt.
8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
9 Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a'i hofnant ef.
10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.
11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd.