1 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.
2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau.
3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben.