11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.
12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a'r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.
15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a'u bwâu a ddryllir.
16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.