16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
17 Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a'u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.
21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a'r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.