19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20 Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.
21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a'r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.
25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara.