33 Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a'i gweli.
35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.
36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.
37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
38 Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.