37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
38 Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.
40 A'r Arglwydd a'u cymorth hwynt, ac a'u gwared: efe a'u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a'u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.