1 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.
2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a'm dolur a gyffrôdd.
3 Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.
4 Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a'm heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.