3 Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.
4 Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a'm heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a'i casgl.
7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti.
8 Gwared fi o'm holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i'r ynfyd.
9 Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.