10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a'th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.
11 Tithau, Arglwydd, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a'th wirionedd fi byth.
12 Canys drygau annifeiriol a'm cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.
13 Rhynged bodd i ti, Arglwydd, fy ngwaredu: brysia, Arglwydd, i'm cymorth.
14 Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i'w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.
16 Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr Arglwydd.