2 Cyfododd fi hefyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.
3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.
4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.
5 Lluosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a'th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.
6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist.
7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.
8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.