6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist.
7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.
8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.
9 Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a'i gwyddost.
10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a'th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.
11 Tithau, Arglwydd, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a'th wirionedd fi byth.
12 Canys drygau annifeiriol a'm cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.